1 Thessalonians 4:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC eb law hyny ys atolygwn ywch, vroder, ac a ervyniwn yn yr Arglwydd Iesu ar ymchwanegu vwy vwy, megis yd erbyniesoch y cenym po’dd y dylech rotio, a’ boddhau Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ddiweddaf, gan hyny, frodyr, attolygwn i chwi, a deisyfiwn yn yr Arglwydd Iesu, fel y derbyniasoch genym pa fodd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel hefyd yr ydych yn rhodio,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn ddiwethaf, frodyr, deisyfwn ac ymbiliwn yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym ni y modd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel, yn wir, yr ydych yn rhodio, ar i chwi ragori fwyfwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn olaf, ffrindiau, fel cynrychiolwyr personol yr Arglwydd Iesu, dŷn ni eisiau pwyso arnoch chi i fyw mewn ffordd sy'n plesio Duw, fel y dysgon ni i chi. Dych chi yn gwneud hynny eisoes, ond dŷn ni am eich annog chi i ddal ati fwy a mwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bellach, gyfeillion, fel y cawsoch eich hyfforddi gennym ni pa fodd y dylech fyw er mwyn boddhau Duw (ac felly, yn wir, yr ydych yn byw), yr ydym yn gofyn ichwi, ac yn deisyf arnoch yn yr Arglwydd Iesu, i ragori fwyfwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ddiweddaf, frodyr, yr ydym yn deisyf ac yn eich annog yn yr Arglwydd Iesu, fel y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a boddloni Duw, fel hefyd yr ydych yn rhodio,