1 Thessalonians 4:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Sef ydd ych yn gwneuthur hyn i bawp o’r vrodur, yr ei ’sy trwy oll Macedonia: ac adolwyn ywch, vroder, ar ragori o hanoch vwyvwy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gwneuthur hyn yr ydych i’r holl frodyr y sydd yn holl Macedonia,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac, yn wir, hyn a wnewch tuag at bawb o’r brodyr trwy holl Facedonia. Ond deisyfwn arnoch, frodyr, ragori fwyfwy
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o'r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi dangos cariad at Gristnogion talaith Macedonia i gyd, a dŷn ni am bwyso arnoch chi, ffrindiau, i ddal ati i wneud hynny fwy a mwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn wir, yr ydych yn gwneud hyn i bawb o'r credinwyr trwy Facedonia gyfan; ond yr ydym yn eich annog, gyfeillion, i ragori fwyfwy:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr ydych hefyd yn gwneuthur hyn tuag at yr holl frodyr sydd yn holl Macedonia; ac yr ydym yn eich annog, frodyr,