1 Thessalonians 4:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ rhoi eich bryd ar vot yn llonydd, a’ gwneuthur y petheu sy y’ dd wch eichunain, a’ gweithiaw a’ch dwylo eich vnain, megis y gorchymynesam y‐chwy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chynghorwn chwi, frodyr, i ymhelaethu fwy-fwy, ac i roddi eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylaw, fel y gorchymynasom i chwi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bod yn eiddgar i fyw’n dawel, a dilyn bob un ei orchwyl ei hun, a gweithio â’ch dwylo, megis y’ch cyfarwyddasom,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech chi wneud popeth allwch chi i gael perthynas iach â phobl eraill. Dylech gynnal eich hunain a gweithio'n galed, yn union fel dwedon ni wrthoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i roi eich bryd ar fyw yn dawel, a dilyn eich gorchwylion eich hunain, a gweithio 'ch dwylo eich hunain, fel y gorchmynasom ichwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i ymhelaethu fwy‐fwy, a rhoddi o honoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylaw, megys y gorchymynasom i chwi,