1 Thessalonians 4:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny d wyllyswn, vroder, eich bot yn anwybot am yr ei ’sydd yn hunaw, val na chymroch‐drymder, megis ac y gvvna eraill yr ei nyd oes ganthynt ddim g obaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sy’n huno, fel na thristaoch yn y modd y gwna’r lleill y sydd heb ganddynt obaith;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni ddymunwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno fel na byddo i chwi ofidio fel y rhelyw nad oes iddynt obaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A nawr, ffrindiau, dŷn ni am i chi ddeall beth sy'n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw. Does dim rhaid i chi alaru fel mae pawb arall yn galaru — does ganddyn nhw ddim gobaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ni ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno, na thristâoch, megys eraill y rhai nid oes ganddynt obaith;