1 Thessalonians 4:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit a’s credwn varw o Iesu, ai ad gynodi, ys velly yr ei n a hun es ant yn Iesu, a ðwc Duw y gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os credu yr ydym y bu i’ r Iesu farw ac adgyfodi; felly hefyd y rhai a hunasant yn yr Iesu, Duw a’u dwg gydag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os credwn i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd trwy Iesu fe ddwg Duw, gydag Ef, y sawl a hunodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os ydym yn credu farw Iesu, a'i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni'n credu hefyd y bydd Duw yn dod â'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e'n dod yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod 'r rhai a hunodd drwy Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys os ydym yn credu i Iesu farw ac adgyfodi, felly hefyd Duw a ddyg y rhai a hunasant trwy yr Iesu gydag ef.