1 Thessalonians 4:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys hyn a ddywedwn wrthych yn‐gair yr Arglwydd, na bydd i ni yr ei ’sy yn vyw, ac yym yn aros yn‐duodiat yr Arglwydd, ragvlaenu ysawl a hun es ant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys hyn a ddywedwn wrthych chwi trwy air yr Arglwydd, Nyni y rhai byw, y sy’n cael ein gadael hyd ddyfodiad yr Arglwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedwn hyn wrthych, yn ôl gair yr Arglwydd, na fydd i ni, y rhai byw a erys hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y sawl a hunodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni'r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu'r rhai a hunasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr Arglwydd ei hun sydd wedi dweud: fyddwn ni sy'n dal yn fyw, pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl, ddim yn ennill y blaen ar y Cristnogion hynny sydd eisoes wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyn yr ydym yn ei ddweud wrthych ar air yr Arglwydd: ni fyddwn ni, y rhai byw a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, yn rhagflaenu dim ar y rhai sydd wedi huno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng Ngair yr Arglwydd: Nyni y rhai byw, y rhai sydd yn cael eu gadael hyd Ddyfodiad yr Arglwydd, ni rag‐flaenwn o gwbl y rhai a hunasant;