1 Thessalonians 4:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐ ynt ef yr Arglwydd a ddescen d o’r nef gyd a gawr, ac a llef yr Archangel, ac ac vtcorn Duw: a’r meirw in‐Christ a gyuodāt yn gyntaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ni rag-flaenwn y rhai a hunasant; canys yr Arglwydd Ei hun gyda bloedd, gyda llef arch-angel, a chydag udgorn Duw, a ddaw i wared o’r nef; a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr Arglwydd Ei Hun a ddisgyn o’r nef â gwysfloedd, â llef archangel, ac ag utgorn Duw, a’r meirw yng Nghrist a gyfyd gyntaf,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o'r nefoedd. Bydd Duw'n rhoi'r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi'n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
oblegyd yr Arglwydd ei hun gyda bloedd, gyda llef archangel, ac âg udgorn Duw, a ddisgyn o'r nef, a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf;