1 Thessalonians 4:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ni nheu yr ei byw ac ’sy yn aros, a gymmerir yny man gyd ac wynt yn yr wybre nneu, y gyfarfod ar Arglwyð yn yr awyr: ac velly yn’oystatol y gyd ar Arglwyð y byddwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi hyny nyni, y rhai byw, y rhai sy’n cael ein gadael, ynghyda hwynt y’n cipir i fynu, yn y cymmylau i’r awyr, i gyfarfod â’r Arglwydd, ac felly yn wastadol ynghyda’ r Arglwydd y byddwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yna ninnau, y rhai byw, y rhai sy’n aros, a gipir gyda hwynt mewn cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr, ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn dragywydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna ninnau'r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna byddwn ni sy'n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda'r Arglwydd am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod 'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi hynny nyni y rhai byw, y rhai sydd yn cael ein gadael, a gipir i fyny ynghyd gyda hwynt mewn cymmylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr, ac felly byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd.