1 Thessalonians 4:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac nyd yn gwyyn trachwant, megis y Cenetloeð yr ei nyd adwaenant Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid yngwyn trachwant fel y cenhedloedd y sydd heb adnabod Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid yn nwyd anlladrwydd fel y cenhedloedd nad adwaenant Dduw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy'n gadael i'w chwantau redeg yn wyllt.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac nid yn nwyd trachwant, fel y cenhedloedd nad ydynt yn adnabod Duw;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid yng ngwŷn trachwant, fel y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: