1 Thessalonians 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na bo i nep ’orthrymu na thwyllo ei vrawt ym‐masnach: can ys dialwr yw’r Arglwydd am bop cyfryw betheu, megis ac y rac ddywedesam y’wch, ac y testiasam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ar beidio â throseddu na gwneuthur cam â’i frawd mewn dim, canys dialydd yw’ r Arglwydd am yr holl bethau hyn, fel y rhag-rybuddiasom chwi hefyd, ac y tystiasom;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel na byddo i neb wneuthur cam â’i frawd, na manteisio arno yn y peth hwn. Canys dialydd yw yr Arglwydd am y pethau hyn oll, megis y dywedasom o’r blaen wrthych a’ch dwys rybuddio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddylai neb groesi'r ffiniau na manteisio ar Gristion arall yn hyn o beth. Bydd yr Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n pechu'n rhywiol — dŷn ni wedi'ch rhybuddio chi'n ddigon clir o hynny o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nid yw neb i gam-drin ei gyd-grediniwr, na manteisio arno yn ei ymwneud ag ef, oherwydd, fel y dywedasom wrthych o'r blaen, a'ch rhybuddio, y mae'r Arglwydd yn dial am yr holl bethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel na byddo i neb fyned dros y terfyn a gwneuthur cam a'i frawd yn y mater, canys dialydd yw yr Arglwydd yn yr holl bethau hyn, megys y dywedasom i chwi o'r blaen ac y tystiasom;