1 Thessalonians 5:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ys Duw y tangneddyf a’ch sancteiddio yn oll gwbl: a’ phoed eich cyfan yspryt a’c h eneid ac h corph, a gatwer yn ddihawl erbyn dyuodiat ein Arglwydd Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Duw’r tangnefedd Ei hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll; a’ch yspryd chwi a’ch enaid a’ch corph a gadwer yn gyfan, yn ddifeius yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A Duw y tangnefedd Ei Hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll, a chadwer chwi ysbryd, enaid, a chorff, yn ddianaf a difai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwir Dduw'r tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy'n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi'n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan — yn ysbryd, enaid a chorff — yn cael ei gadw'n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Duw y tangnefedd, efe ei hun a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer yn gyfan oll eich yspryd a'ch enaid a'ch corph yn ddifeius yn Nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.