1 Thessalonians 5:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ydd wyf yn ych noddi o yn yr Arglwyð, ar vot ddarllen yr epistol hwn ir oll Sainct vroder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd y darllener yr epistol hwn i’r holl frodyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd i ddarllen y llythyr i’r holl frodyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n eich siarsio chi ar ran yr Arglwydd ei hun i wneud yn siŵr fod y Cristnogion i gyd yn clywed y llythyr yma yn cael ei ddarllen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd ar ddarllen y llythyr i'r holl frodyr.