1 Thessalonians 5:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pan ddywetont, Tangneddyf, a’ diogelwch, yno y daw arnynt ðestryw iad disymuth, megis gofid gwraic veithioc wrrh escor, ac ny ’s d d iangant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mai felly y mae ar ddyfod; pan ddywedont, Heddwch a diogelwch sydd, yna yn ddisymmwth y mae arnynt ddinystr, fel gwewyr esgor ar yr hon sydd feichiog, ac ni ddiengant ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan ddywed pobl “Y mae’n dawel a diogel,” y pryd hwnnw y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf, fel gwewyr gwraig ar esgor, ac ni ddihangant ddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl yn dweud, “Mae pethau'n mynd yn dda,” a “Dŷn ni'n saff,” ac yn sydyn bydd dinistr yn dod. Bydd yn dod mor sydyn â'r poenau mae gwraig yn eu cael pan mae ar fin cael babi. Fydd dim dianc!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd pobl yn dweud, "Dyma dangnefedd a diogelwch", dyna'r pryd y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf fel gwewyr esgor ar wraig feichiog, ac ni fydd dim dianc iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan ddywedant, Tangnefedd a dyogelwch, yna y mae dinystr disymmwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megys gwewyr esgor ar yr hon sydd feichiog, ac ni ddiangant o gwbl.