1 Thessalonians 5:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ny ni ac yn blant ir dydd, byddwn ddiwyd, gan wisco am danom ðwyfronnec y ffydd a’ chariat, a’ gobaith yr iechedwrieth yn lle helym.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a ni yn eiddo’ r dydd, byddwn sobr, wedi rhoddi am danom ddwyfronneg ffydd a chariad; ac megis helm, obaith iachawdwriaeth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr byddwn ni sy’n eiddo’r dydd yn sobr, wedi gwisgo amdanom lurig ffydd a chariad, a gobaith iachawdwriaeth yn helm,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr nyni, gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dŷn ni'n perthyn i'r dydd. Gadewch i ni fyw'n gyfrifol, wedi'n harfogi gyda ffydd a chariad yn llurig, a'r gobaith sicr y cawn ein hachub yn helmed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond nyni, a ni o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac fel helm, gobaith iachawdwriaeth.