1 Timothy 1:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ir putteniwyr, ir bwggeryddion, i ladron dynion, i rrai celwyddog, ir anudonwyr, ag od oys dim arall, rrwn sy wrthwyneb i athrawaeth iachus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i leiddiaid dynion, i butteinwyr, i wrryw-gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os rhyw beth arall sydd yn wrthwyneb i’r athrawiaeth iachus,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i buteinwyr, i wrywgydwyr, i gaethgludwyr, i gelwyddwyr, i anudonwyr, a pheth bynnag arall sydd wrthwyneb i’r ddysgeidiaeth iach
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I buteinwyr, i wryw‐gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
pobl sy'n pechu'n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy'n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy'n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i ddysgeidiaeth gywir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn puteinio, yn ymlygru 'u rhyw eu hunain, yn herwgipio, yn dweud celwydd, yn tyngu ar gam, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i'r athrawiaeth iach
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i butteinwyr, i wrryw-gydwyr, i ladron‐dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac od oes dim arall yn groes i'r Athrawiaeth iachus,