1 Timothy 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny diolch i ddwy ir hwn, a roes ym allu ’sef Christ Iesu eyn Arglwyð: can ys ef am barnoð yn ffyðlon, ac am dodes yn eu wasanaeth:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Diolchgar wyf i’r Hwn a’m galluogodd, Crist Iesu ein Harglwydd, am mai ffyddlawn y barnodd fi; gan fy ngosod yn y weinidogaeth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Diolchaf i’r hwn a roddes allu ynof, Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif i yn ffyddlon, a’m gosod mewn gwasanaeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydwyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy'n rhoi'r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a'm nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a'm penodi i'w wasanaeth;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlawn, gan fy ngosod yn y weinidogaeth;