1 Timothy 1:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ mine or blaen yn cablwr, ag yn emlidiwr, ag yn draws: eithr trugarhau wrthyf a wnaeth ef: cans yn anwybod us i gwneuthym trwy angrredinieth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a mi gynt yn gablwr ac erlidiwr a sarhaus; eithr trugarhawyd wrthyf gan mai yn anwybodus y gwneuthym mewn anghrediniaeth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a minnau gynt yn gablwr, erlidiwr ac yn drahaus. Eithr trugarhawyd wrthyf am mai o anwybod y gweithredais mewn anghrediniaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn oeddwn o'r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn dod yn Gristion roeddwn i'n arfer cablu ei enw; roeddwn i'n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw. Ond roedd Duw yn garedig ata i — doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i'n ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
myfi, yr un oedd gynt yn ei gablu, yn ei erlid, ac yn ei sarhau. Ar waethaf hynny, cefais drugaredd am mai mewn anwybodaeth ac anghrediniaeth y gwneuthum y cwbl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a mi gynt yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus; eithr mi a gefais drugaredd, gan yn anwybodus y gweithredais mewn annghrediniaeth;