1 Timothy 1:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr achos hyn i trugarhaodd wrthyf, mal i bai i Iesu Christ ðangos ynof yn gyntaf pob hir‐oddeu, ir syampl yddyntwy, rrain rrag llaw a grettont ynthaw herwyð y bowyd tragwyddol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr o achos hyn y trugarhawyd wrthyf, fel ynof fi, y pennaf, y dangosai Iesu Grist Ei holl hir-ymaros, er siampl o’r rhai ar fedr credu Ynddo Ef i fywyd tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr er mwyn hyn y trugarhawyd wrthyf, fel ynof fi ymlaenaf yr arddangosai Iesu Grist ei holl amynedd, i fod yn enghraifft o’r rhai sydd i gredu ynddo ef i fywyd tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef, er siampl i'r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i'n esiampl berffaith o'r math o bobl fyddai'n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cefais drugaredd, a hynny fel y gallai Crist Iesu ddangos ei faith amynedd yn fy achos i, y blaenaf, a'm gwneud felly yn batrwm i'r rhai fyddai'n dod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr o achos hyn mi a gefais drugaredd, fel ynof fi, y pennaf, yr arddangosai Iesu Grist ei holl hir‐ymaros, fel siampl o'r rhai ydynt ar gredu ynddo ef i fywyd tragywyddol.