1 Timothy 1:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O rrai hyn i may Hymeneus, ac Alexander, rrain a ddy roddais i Satan, i ddyscu vddynt na chablont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac o ran y ffydd y gwnaethant long-ddrylliad: o’r rhai y mae Humenëus ac Alecsander, y rhai a draddodais i Satan fel y dysger hwynt i beidio â chablu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
o’r rhain y mae Hymenaeos ac Alecsandros a draddodais i Satan, fel y’u dysgid hwy i beidio â chablu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander; y rhai a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Hymenaeus ac Alecsander yn enghreifftiau o'r peth. Dw i wedi eu taflu nhw allan o'r eglwys er mwyn iddyn nhw ddysgu peidio cablu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pobl felly yw Hymenaeus ac Alexander, dau a draddodais i Satan, i'w disgyblu i beidio chablu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
o'r rhai y mae Hymenëus ac Alexander, y rhai a draddodais i Satan, fel y dysger hwynt i beidio a chablu.