1 Timothy 1:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ag nad ystyriant chwedlay, ag achay anorffen, rrain kynt yddynt fagu questiwnay, nag edeiladaeth dywiol sy drwy ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a pheidio â dal ar chwedlau ac achau diddiwedd y rhai a finistrant gwestiynau yn hytrach na disdeiniaeth Dduw, yr hon sydd mewn ffydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
na chwaith ymroddi i chwedlau ac achau diddiwedd, y cyfryw bethau ag sy’n peri dyfaliadau yn hytrach na threfn Duw yr hon sydd trwy ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dyn nhw'n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a rhoi'r gorau i chwedlau ac achau diddiwedd. Pethau yw'r rhain sy'n hyrwyddo dyfaliadau ofer yn hytrach na chynllun achubol Duw, a ganfyddir trwy ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
na thalu sylw i chwedlau ac achau diderfyn, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach na goruchwyliaeth Duw, yr hon sydd mewn ffydd; felly y gwnaf yn awr.