1 Timothy 1:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
hwy a fynnen fod yn ddoctoriaid y gyfraith, heb na dyall yr hyn a ddoytont, nar pethau i boont yn i sikerhau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ewyllysio bod yn ddysgawdwyr y Gyfraith, heb ddeall na’r pethau a ddywedant, nac am ba bethau y taerant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ewyllysio bod yn ddoctoriaid cyfraith, a hwythau heb ddeall na’r pethau a ddywedant na’r pethau y taerant amdanynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ewyllysio bod yn athrawon o'r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n sôn amdano er eu bod nhw'n siarad mor awdurdodol!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent 'u bryd ar fod yn athrawon y Gyfraith, ond nid ydynt yn deall dim ar eu geiriau eu hunain, na chwaith ar y pynciau y maent yn eu trafod mor awdurdodol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ewyllysio bod yn ddysgawdwyr y Gyfraith, heb ddeall y pethau a ddywedant, nac am ba bethau yr haerant.