1 Timothy 1:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can wybod hynn, na ddodwyd y gyfraith ir kyfion, eithr ir rrai afreolus ac ir anostyngedigion, ir hai andywiol, ar pechaduriaid, ir rrai enwir, a’ rrai anlan, i lawruddogion tad a’ llawruddogion mam, i lawruddogion‐dynion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan wybod hyn, sef nad i’ r cyfiawn y gosodir cyfraith, ond i’r rhai digyfraith ac afreolus, i annuwiolion a phechaduriaid, i’ r rhai disanctaidd a halogedig, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan wybod nad i ŵr uniawn y gosodwyd cyfraith ond i rai digyfraith ac anufudd, i annuwiolion a phechaduriaid, i rai halog a chableddus, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid, i lofruddion,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan wybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac anufudd, i'r rhai annuwiol a phechaduriaid, i'r rhai disanctaidd a halogedig, i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid, i leiddiaid dynion,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy'n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy'n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy'n lladd eu tadau a'u mamau, llofruddion,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gadewch inni ddeall hyn: y mae'r Gyfraith wedi ei llunio, nid ar gyfer y sawl sy'n cadw'r Gyfraith ond ar gyfer y rheini sy'n ei thorri a'i herio, sef yr annuwiol a'r pechadurus, y digrefydd a'r di-dduw, y rhai sy'n lladd tad a mam, yn llofruddio,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan wybod hyn, nad i ddyn cyfiawn y gosodir cyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac afreolus, i'r annuwiol a phechaduriaid, i'r disanctaidd ac annghrefyddol, i dad‐leiddiaid a mam-leiddiaid, i lofruddwyr dynion,