1 Timothy 2:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nid Adda a dwyllwyd, eithyr y wraig wedy i thwyllaw aeth yn euoc or cam‐wedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yna Hefa; ac Adam ni thwyllwyd, ond y wraig, wedi ei thwyllo, oedd mewn trosedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac Adda nis twyllwyd, ond y wraig o’i llwyr dwyllo a aeth i gamwedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dim Adda gafodd ei dwyllo; y wraig oedd yr un gafodd ei thwyllo, a throseddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac nid Adda a dwyllwyd; y wraig oedd yr un a dwyllwyd, a chwympo drwy hynny i drosedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac Adda ni thwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei hollol‐dwyllo, sydd wedi syrthio i gamwedd;