1 Timothy 2:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar yr hyn im dodwyd yn pregethwr ac yn abostol (y gwir a ddoydaf yn‐Christ, heb gelwydd) sef athro y cenedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y dystiolaeth yn ei hamseroedd ei hun, i’r hon y’m gosodwyd i yn gyhoeddwr ac apostol (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn celwyddu,) yn ddysgawdwr y cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i hon y’m gosodwyd i’n bregethwr ac apostol (gwir a ddywedaf ac nid celwydd), yn athro i’r cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r hyn y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd;) yn athro'r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy'n wir, a'r angen i gredu yn Iesu Grist. A'r gwir dw i'n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar fy ngwir, heb ddim anwiredd, dyma'r neges y penodwyd fi i dystio iddi fel pregethwr ac apostol, yn athro i'r Cenhedloedd yn y ffydd ac yn y gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i'r hyn y'm gosodwyd i yn gyhoeddwr ac Apostol (gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn dywedyd celwydd), yn ddysgawdwr y Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.