1 Timothy 2:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly hefyd y gwrageð, bod yddynt ymdrwsiaw mewn dillad gweddus, gida lledneisrwydd a chymesurwydd, nid a gwallt plethedig, neu aur, neu gemau, neu ddillad gwerthfawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr un modd i wragedd addurno eu hunain â dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig ac aur, nac â pherlau neu wisg werthfawr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un modd y gwragedd, ymdrwsient mewn diwyg weddaidd, yn wylaidd a synhwyrol: nid â phlethiadau gwallt ac aur, neu berlau, neu ddillad drudfawr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr un modd hefyd, bod i'r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd; nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy'n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy'n bwysig,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bod y gwragedd, yr un modd, yn gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair, ac yn eu harddu eu hunain, nid phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr un modd i'r gwragedd addurno eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gŵylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig, ac aur, neu berlau, neu ddillad drudfawr;