1 Timothy 3:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YMadrodd gwir yw hwn, o bydd neb yn wollysy swydd escob, ys da waith a chwennych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Credadwy yw’r ymadrodd, Os swydd esgob a chwennych neb, gwaith ardderchog a ddymuna efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwir yw y gair. Os yw neb yn chwennych arolygiaeth, gorchwyl anrhydeddus y mae yn ei chwennych.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwir yw'r gair, Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir: Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma air i'w gredu: "Pwy bynnag sydd 'i fryd ar swydd arolygydd, y mae'n chwennych gwaith rhagorol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ffyddlawn yw yr ymadrodd, Os yw neb yn ymawyddu am yr Arolygiaeth, y mae yn chwennych gwaith da.