1 Timothy 3:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Arhain profer hwynt yn gynta: ac yno gwasnaythant, os byddant difeius.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y rhai hyn, profer hwynt yn gyntaf; yna gwasanaethont swydd diaconiaid, os diargyhoedd fyddant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhodder y rhain hefyd ar brawf yn gyntaf; yna, os byddant yn ddiargyhoedd, byddent ddiaconiaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai'r dynion hyn dreulio cyfnod ar brawf cyn cael eu penodi i wasanaethu. Wedyn byddan nhw'n gallu cael eu penodi os oes dim rheswm i beidio gwneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dylid eu rhoi hwythau ar brawf ar y cychwyn, ac yna, o'u cael yn ddi-fai, caniatu iddynt wasanaethu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phrofer y rhai hyn hefyd yn gyntaf, yna gwasanaethent fel Diaconiaid, os ydynt yn ddiargyhoedd.