1 Timothy 3:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ddi ddadyl, mawr ydyw cyfrinach dywyoliaeth ’sef Duw a wnaethpwyt yn weledig mewn cnawt, a gyfiownwyd yn yr yspryd, a welwyd can angylion, a bregethwyd ir Cenedloeð, a gredwyd iddaw yn y byd, ac a gymerwyd i fyny dd i ogoniāt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb, yr Hwn a amlygwyd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yspryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’ r cenhedloedd, a gredwyd Ynddo yn y byd, a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac addefedig yw, mawr yw cyfrinach duwioldeb; Yr hwn a amlygwyd yn y cnawd, A gyfiawnhawyd yn yr ysbryd, A welwyd gan angylion, A gyhoeddwyd ymhlith y cenhedloedd, Y credwyd ynddo yn y byd, A gymerwyd i fyny mewn gogoniant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ddi‐ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i'r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Heb unrhyw amheuaeth, mae beth sydd wedi ei ddangos i fod yn wir am ein ffydd ni yn rhyfeddol: Daeth i'r golwg fel person o gig a gwaed; Cyhoeddodd yr Ysbryd Glân ei fod yn gyfiawn. Cafodd ei weld yn fyw gan angylion; Cafodd y newyddion da amdano ei gyhoeddi i'r cenhedloedd, a chredodd llawer o bobl y byd ynddo. Cafodd ei gymryd i fyny i ysblander y nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rhaid inni'n unfryd gyffesu mai mawr yw dirgelwch ein crefydd: "Ei amlygu ef mewn cnawd, ei gyfiawnhau yn yr ysbryd, ei weld gan angylion, ei bregethu i'r Cenhedloedd, ei gredu drwy'r byd, ei ddyrchafu mewn gogoniant."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb: Yr Hwn a amlygwyd yn y cnawd; A gyfiawnhâwyd yn yr Yspryd; A welwyd gan angelion; A bregethwyd i'r Cenhedloedd; A gredwyd ynddo yn y byd; A dderbyniwyd i fyny mewn gogoniant.