1 Timothy 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rraid iddaw ef hefyt gaffael gair da can ðieithred, rrag digwyð mewn gwarth, a magl diawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y mae rhaid hefyd iddo fod a thystiolaeth dda iddo oddiwrth y rhai oddi allan, fel nad i waradwydd y syrthio ac i fagl diafol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dylai gael gair da gan y rhai oddi allan, rhag iddo syrthio dan warth ac i fagl diafol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid iddo hefyd fod ag enw da gan bobl y tu allan i'r eglwys, rhag iddo gael ei ddal ym magl y diafol a chael ei gywilyddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dylai fod yn un gair da iddo gan y byd oddi allan, rhag iddo gwympo i waradwydd a chael ei ddal ym magl y diafol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae yn rhaid iddo hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan, fel na syrthio i waradwydd ac i fagl y Diafol.