1 Timothy 3:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly hefyd bot y deconiaid yn honest, nid a thafodau dau ðyblig, nid trachwannog i win, nid chwānog budr elw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Diaconiaid, yr un ffunud, y mae rhaid iddynt fod yn ddifrifol, nid yn ddau-eiriog, nid yn ymroi i win lawer,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un modd dylai diaconiaid fod yn barchus, nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn fudrelwyr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhaid i'r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r rhai sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys yr un fath. Rhaid iddyn nhw fod yn bobl sy'n haeddu eu parchu, ddim yn ddauwynebog, ddim yn yfed yn ormodol, nac yn elwa ar draul pobl eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr un modd, rhaid i ddiaconiaid ennyn parch; nid yn ddauwynebog, nac yn drachwantus am win, nac yn chwennych elw anonest.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rhaid i Ddiaconiaid yr un ffunud fod yn ddifrifol, nid yn ddau‐eiriog, nid yn ymroddi i win lawer, nid yn budr‐elwa,