1 Timothy 4:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AR Yspryt syn doydyt yn eglur, ir ymedy rrai yn yr amseroedd diwaytha or ffydd, yr ystyrio ysprydoedd cyfeiliorn us, a’ dysceidiaythay cethreuliaid,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr Yspryd a ddywaid yn bendant, yn yr amseroedd diweddarach y saif rhai ymaith oddiwrth y ffydd, gan ddal ar ysprydion cyfeiliornus ac athrawiaethau cythreuliaid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eto y mae’r ysbryd yn dywedyd yn eglur y gwrthgilia rhai oddi wrth y ffydd yn yr amseroedd diwethaf, gan roi coel ar ysbrydion camarweiniol a dysgeidiaeth daimoniaid, a ddysg gau athrawon
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae'r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r Ysbryd Glân yn dweud yn gwbl glir y bydd rhai yn y cyfnod olaf hwn yn troi cefn ar y gwir. Byddan nhw'n gwrando ar ysbrydion sy'n twyllo ac yn credu pethau mae cythreuliaid yn eu dysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y mae yr Yspryd yn dywedyd yn bendant, yr ymedy rhai mewn amseroedd diweddarach oddiwrth y ffydd, gan roddi coel i ysprydion cyfeiliornus ac athrawiaethau cythreuliaid,