1 Timothy 4:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na ðiystyred neb dy ifiengtid ti, eithr bydd ir hai a gretton yn siampl, ar ’air, ar ymddygiad, ar gariad, ar yspryt, ar ffydd, a’ p h urdeb.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na fydded i neb ddirmygu dy ieuengctid di, eithr bydd yn ensiampl i’r rhai sy’n credu, mewn gair, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn ffydd, mewn purdeb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ddirmyged neb dy ieuenctid di, eithr bydd yn esiampl i’r credinwyr mewn ymddiddan, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn ffyddlondeb, mewn purdeb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di'n ifanc. Bydd yn esiampl dda i'r credinwyr yn y ffordd rwyt ti'n siarad, a sut rwyt ti'n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a'th fywyd glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paid gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na ddiystyred neb dy ieuengctyd di, eithr bydd yn esiampl i'r rhai sydd yn credu, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad,, mewn ffydd, mewn purdeb.