1 Timothy 4:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nac ysceulusa y rrodd sydd ynotti, rron a rodded i ti i proffedoliaythy gā osodiad dwylo yr Henafiaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nac esgeulusa y dawn sydd ynot ti, yr hwn a roddwyd i ti trwy brophwydoliaeth ynghydag arddodiad dwylaw yr henuriaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nac esgeulusa’r ddawn sydd ynot, a roddwyd iti trwy fynegiad proffwydol ynghydag arddodiad dwylo’r henuriaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac esgeulusa'r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo'r henuriaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paid ag esgeuluso'r ddawn sydd ynot ac a roddwyd iti trwy eiriau proffwydol ac arddodiad dwylo'r henuriaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nac esgeulusa y dawn sydd ynot, yr hwn a roddwyd i ti trwy brophwydoliaeth, gydag arddodiad dwylaw yr Henaduriaeth.