1 Timothy 4:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Arfera y pethau hynn, ac ymddyro yddynt, mal i gallo dy lysaad ti fod yn eglur ym‐plith pawb.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn y pethau hyn bydd ddyfal; yn y pethau hyn parha, fel y bo dy gynnydd di yn amlwg i bawb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bydd ddyfal gyda’r pethau hyn; bydd fyw ynddynt, fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwna'r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i'w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti'n dod yn dy flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofala am y pethau hyn, ymdafla iddynt, a bydd dy gynnydd yn amlwg i bawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bydd ddyfal yn y pethau hyn, aros ynddynt, fel y byddo dy gynnydd yn amlwg i bawb.