1 Timothy 4:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwilia arnat tyhun, ac ar athrawaeth: parhaa yn hynn: can ys o gwnei di hyn, ti ath cedwi dy hun, ar rei a wrandawo arnat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwylia arnat dy hun, ac ar dy ddysgad: aros ynddynt; canys os hyn a wnai, ti dy hun a achubi, ac y rhai sydd yn dy glywed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwylia arnat dy hun ac ar dy ddysgeidiaeth, dal ati; o wneuthur hyn, ti a’th achubi dy hun a’th wrandawyr hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a'th gedwi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cadw lygad ar sut rwyt ti'n byw a beth rwyt ti'n ei ddysgu. Dal ati i wneud hynny. Wedyn byddi'n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi, a dal ati yn y pethau hyn. Os gwnei di felly, yna fe fyddi'n dy achub dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwylia arnat dy hun, ac ar dy ddysgeidiaeth; aros ynddynt, canys wrth wneuthur hyn, ti a achubi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat.