1 Timothy 4:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn gwa h ardd priodas, ac yn erchi, ymattal oddiwrth fwydydd, rrain a creawdd Duw yw mwynhau trwy talu‐diolch ir ffyddloniaid, ac irhai a edoynant y gwirionedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd; y rhai Duw a’u creodd i’w derbyn gyda rhoddi diolch gan y ffyddloniaid, a’r rhai a wyddant y gwirionedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
sydd yn gwahardd priodi, yn erchi ymwrthod â bwydydd a greodd Duw i’w cymryd gyda diolch gan y rhai sydd yn credu ac yn adnabod y gwirionedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i'w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a'r rhai a adwaenant y gwirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n rhwystro pobl rhag priodi ac yn gorchymyn iddyn nhw beidio bwyta rhai bwydydd. Ond Duw greodd y bwydydd hynny i'w derbyn yn ddiolchgar gan y rhai sy'n credu ac sy'n gwybod beth ydy'r gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn gwahardd priodi, ac yn mynnu fod pobl yn ymwrthod bwydydd bwydydd y mae Duw wedi eu creu i'w derbyn diolch gan y credinwyr sydd wedi canfod y gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd y rhai a greodd Duw i'w derbyn gyda diolchgarwch gan y rhai sydd yn credu ac yn llawn‐wybod y gwirionedd.