1 Timothy 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O dygi di ar gof ir brodyr y pethau hyn, ys da wasnaythwr fyði i Iesu Christ, rrwn ith fagwyd mewn geiriau’r ffydd, ac athrawaeth da, rrwn a ddylynaist yn astud.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan ddwyn y pethau hyn ar gof i’r brodyr, gweinidog da fyddi i Grist Iesu, gan dy fagu dy hun yngeiriau’r ffydd a’r athrawiaeth dda yr hon a ddilynaist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O osod y pethau hyn gerbron y brodyr, gwas da i Iesu Grist fyddi, yn dy feithrin dy hun yng ngeiriau’r ffydd a’r ddysg ragorol y glyni wrthi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau'r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnei di ddysgu hyn i bawb arall, a bwydo dy hun ar wirioneddau'r ffydd a'r ddysgeidiaeth dda rwyt wedi ei derbyn, byddi di'n was da i Iesu y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dygi di'r pethau hyn i sylw'r gynulleidfa, byddi'n was da i Grist Iesu, yn dy feithrin dy hun geiriau'r ffydd, a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dilyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi yn weinidog da i Grist Iesu, gan gael dy feithrin yng ngeiriau y ffydd a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dylyn.