1 Timothy 4:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ymarfer corphorawl ychydig a proffittia: eithr dywolieth proffidiol yw i pob peth, ac addewid iddaw or bowyd presennawl, ac or hwn a ddaw rrac llavv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ymarfer corphorol i ychydig y mae’n fuddiol; ond duwioldeb, i bob peth buddiol yw, ag addewid ganddo o’r bywyd y sydd yn awr ac o’r hwn ar fedr dyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys y mae ymarfer corff yn fuddiol dros ychydig, ond y mae duwioldeb yn fuddiol i bopeth, a chanddo addewid am y bywyd y sydd ac a fydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yr awron, ac o'r hwn a fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach — mae'n dda i ti yn y bywyd hwn a'r bywyd sydd i ddod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y mae ymarfer corphorol yn fuddiol i ychydig raddau, ond y mae duwioldeb yn fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yn awr, ac o'r hwn sydd ar ddyfod: