1 Timothy 5:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac yn dda i gair am weithredoedd da: os magawdd hi i p h lant, o lletteuodd hi y pellenig, o golchawð hi traed y saint, o cymhorthwyawdd hi y rrai fyddent mewn adfyd, o bu perhaus yn wastad ym pob gorchwyl da.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mewn gweithredoedd da y tystiolaethir iddi, os dygodd blant i fynu, os bu letteugar, os traed y saint a olchodd, os y rhai cystuddiol a gynnorthwyodd, os pob gweithred dda a ddilynodd hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac enw iddi am weithredoedd da; iddi fagu plant, iddi letya dieithriaid, iddi olchi traed saint, iddi gynorthwyo rhai adfydus, a dilyn pob gwaith da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yn wraig mae enw da iddi am ei bod wedi gwneud cymaint o ddaioni: wedi magu ei phlant, rhoi croeso i bobl ddieithr, gwasanaethu pobl Dduw, a helpu pobl mewn trafferthion. Dylai fod yn wraig sydd wedi ymroi i wneud daioni bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rhaid cael prawf iddi ymroi i weithredoedd da: iddi fagu plant, iddi roi llety i ddieithriaid, iddi olchi traed y saint, iddi gynorthwyo pobl mewn cyfyngder, yn wir iddi ymdaflu i bob math o weithredoedd da.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn cael tystiolaeth dda am ei gweithredoedd da, os dygodd blant i fyny, os bu lettygar, os golchodd hi draed y saint, os cynnorthwyodd y cystuddiol, os dylynodd bob gweithred dda.