1 Timothy 5:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly hefyd hvvy yn segur dyscu a wnāt rodio odd amgylch o ty i dy, ac nid yn vnic segur: eithr hefyd yn ofeiriaithus, ac yn rrodresgar, yn adrodd yr hyn ny weddei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac hefyd dysgant fod yn ddiog, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn unig yn ddiog, eithr hefyd yn wag-siaradus ac yn ofer-lafurus, gan lefaru’r pethau na ddylid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ynghyda hyn dysgant fod yn segur, gan wibio o dŷ i dŷ, ac nid yn segur yn unig, eithr hefyd yn gegog ac ymyrgar, ac yn adrodd pethau na ddylid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr un pryd, mae peryg iddyn nhw fynd i'r arfer drwg o wneud dim ond crwydro o un tŷ i'r llall a bod yn ddiog. Ac yn waeth na hynny, clebran a busnesa a dweud pethau ddylen nhw ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
At hynny, byddant yn dysgu bod yn ddiog wrth fynd o gwmpas y tai, ac nid yn unig yn ddiog ond hefyd yn siaradus a busneslyd, yn dweud pethau na ddylid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Heblaw, y maent yn dysgu bod yn segur, gan fyned o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn unig yn ddiog, ond hefyd yn wag‐siaradus ac yn ymyrgar, gan lefaru pethau annghymwys.