1 Timothy 5:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o byð na gwr ffyddlon, na gwraig ffyðlon a’ gvvragedd gweddwon ganthynt, cynhorthwyent hwynt, ac na ’ormeser ar yr eglwys, mal i bo digoneð i rrei ’sy wir weddwon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os oes rhyw wraig sy’n credu a chanddi wragedd gweddwon, cynnorthwyed hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys, fel y gwragedd gweddwon mewn gwirionedd y cynnorthwyo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Od oes gan wraig grediniol weddwon, estynned gymorth iddynt, ac na feichier yr eglwys, fel y gallo hi gynorthwyo’r gweddwon di-gefn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oes gan unrhyw wraig sy'n Gristion berthnasau sy'n weddwon, dylai hi ofalu amdanyn nhw a pheidio rhoi'r baich ar yr eglwys. Bydd yr eglwys wedyn yn gallu canolbwyntio ar helpu'r gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dylai unrhyw wraig sy'n gredadun, a chanddi weddwon yn y teulu, ofalu amdanynt. Nid yw'r gynulleidfa i ddwyn y baich mewn achos felly, er mwyn iddynt allu gofalu am y rhai sy'n weddwon mewn gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Od oes gan wraig grediniol weddwon, cynnorthwyed hwy, ac na osoder baich ar yr eglwys, fel y cynnorthwyo y gweddwon gwirioneddol.