1 Timothy 5:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Henaduriaid syn rreoli yn dda, dau ddy blig vrddas hayddant, yn enwedig y rrei sy yn poyni yn y gair, ac mewn dysc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr henuriaid sy’n llywodraethu yn dda, cyfrifer hwynt yn deilwng o barch dau-ddyblyg, yn enwedig y rhai sy’n llafurio yn y Gair a’r dysgad;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr henuriaid sy’n llywyddu’n dda, cyfrifer hwy’n deilwng o barch deublyg, yn enwedig y rhai sy’n llafurio trwy bregethu ac addysgu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r arweinwyr hynny yn yr eglwys sy'n gwneud eu gwaith yn dda yn haeddu eu parchu a derbyn cyflog teg. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai hynny sy'n gweithio'n galed yn pregethu a dysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r henuriaid sy'n arweinwyr da yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth, yn arbennig y rhai sydd yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cyfrifer yr Henuriaid sydd yn llywyddu yn dda yn deilwng o barch dyblyg, yn enwedig y rhai sydd yn llafurio yn y Gair a'r athrawiaeth;