1 Timothy 5:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr yscrythyr lan a ddowaid, Na vwslia safn yr ych sy’n durnu r yd: hefyd, May’r gwethwr yn heuddu i gyflog.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys dywaid yr Ysgrythyr, “Ych tra y dyrna, ni safn-rwymi;” ac, “Haeddu ei gyflog y mae’r gweithiwr.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dywed yr Ysgrythur, Na rwyma safn yr ych sy’n sathru’r ŷd, hefyd Teilwng yw’r gweithiwr o’i gyflog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu'r ŷd: ac, Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta,” a hefyd “Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu", a hefyd: "Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys dywed yr Ysgrythyr, “Nid wyt i rwymo safn yr ŷch pan yn dyrnu yr ŷd”; ac, “Y mae y gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”