1 Timothy 5:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gorchymyn i ddwy yt gar bron Duw ar Arglwydd Iesu Christ, ar etholedig Angylion, gadw o hanot hynn heb ragori neb mwy noi gilidd, na gwneuthyr dim o gydpartieth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gorchymynaf ger bron Duw a Christ Iesu a’r angylion etholedig, gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tynghedaf di yngŵydd Duw a Christ Iesu a’i ddewis angylion, i gadw’r cyfarwyddiadau hyn, heb na rhagfarn na chwaith wneuthur dim o ffafraeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O flaen Duw a'r Meseia Iesu a'r angylion mae wedi eu dewis, dw i'n rhoi siars i ti wneud y pethau yma heb ragfarn na chymryd ochrau. Paid byth â dangos ffafriaeth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn dy rybuddio, yng ngu373?ydd Duw a Christ Iesu a'r angylion etholedig, i gadw'r rheolau hyn yn ddiragfarn, a'u gweithredu ar bob adeg yn ddiduedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn dy dynghedu, ym mhresennoldeb Duw, a Christ Iesu,, a'r etholedig angelion, ar gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o bleidgarwch,