1 Timothy 5:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o bydd vn weddw ac iddi plant neu wyrion, dyscant yn gyntaf ddangos gwaredd tuagat at dy hun, a’ thalu’r pwyth yw henafieid: can ys hynny ’sy honest a chymradwy gar bron Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os rhyw wraig weddw sydd a chanddi blant neu ŵyrion, dysgont yn gyntaf arfer duwioldeb tuag at eu teulu eu hunain, a thalu yn ol i’w rhieni, canys hyn sydd gymmeradwy ger bron Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr od oes gan weddw blant neu ŵyrion, dysgent fyw yn dduwiol yn gyntaf yn eu teulu eu hunain, ac ad-dalu i’w hynafiaid, canys hyn sy dderbyniol gan Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu'r pwyth i'w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai'r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os oes gan y weddw blant neu wyrion, dylai'r rheini yn gyntaf ddysgu ymarfer eu crefydd tuag at eu teulu, a thalu'n l i'w rhieni y ddyled sydd arnynt, oherwydd hynny sy'n gymeradwy gan Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os oes gan unrhyw weddw blant neu ŵyrion, dysgent yn gyntaf arfer duwioldeb at eu teulu eu hunain, a gwneyd atdaliad i'w rhieni: canys hyn sydd gymmeradwy yng ngolwg Duw.