1 Timothy 5:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ond hon syn byw, mewn mursendod, marw ydiw cyd bo yn byw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a pharhau y mae mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd; ond y drythyll, tra yn fyw, marw yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y weddw drythyll, y mae hi wedi marw a hithau’n fyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r weddw sy'n byw i fwynhau ei hun a chael amser da yn farw'n ysbrydol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r weddw afradlon, ar y llaw arall, gystal marw er ei bod yn fyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr yr hon sydd yn arwain bywyd gloddestgar sydd yn farw tra yn fyw.