1 Timothy 5:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o byð neb nid ymgeleddo yr eiddo, ac yn enwedic eu teulu, e wadawð y ffydd, a’ gwaeth yw nag vn diffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os tros ei bobl ei hun, ac yn enwedig y rhai o’i dŷ, na ddarbod neb, y ffydd a wadodd efe, ac y mae yn waeth nag anghredadyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr oni ddarpar dyn ar gyfer ei dylwyth, ac yn enwedig ei deulu, y mae wedi gwadu’r ffydd, a gwaeth yw nag anghredadun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di‐ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae unrhyw un sy'n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na'r bobl sydd ddim yn credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pwy bynnag nad yw'n darparu ar gyfer ei berthnasau, ac yn arbennig ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu'r ffydd ac y mae'n waeth nag anghredadun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac od oes neb heb ddarparu ar gyfer ei bobl ei hun, ac yn enwedig ei dylwyth ei hun, y mae wedi gwadu y ffydd, ac yn waeth na'r di‐ffydd.