1 Timothy 6:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CYnifer ac y’sydd o wasnaythwyr tann yr iau, barnant eu meistredd yn teilwng o bob anrrydedd, rrag cablu enw Duw ay addysc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cynnifer ag sydd dan yr iau, yn gaeth-weision, eu meistriaid barnont hwy yn deilwng o bob anrhydedd, fel na bo i enw Duw, a’r athrawiaeth, eu cablu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cynifer ag sydd gaethweision tan iau, cyfrifent hwy eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw na’r ddysgeidiaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau, tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd; fel na chabler enw Duw, a'i athrawiaeth ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai Cristnogion sy'n gaethweision barchu eu meistri, fel bod pobl ddim yn dweud pethau drwg am Dduw a beth dŷn ni'n ei ddysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r rhai sy'n gaethweision dan yr iau i gyfrif eu meistri eu hunain yn deilwng o wir barch, fel na chaiff enw Duw, na'r athrawiaeth Gristionogol, air drwg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cynnifer ag sydd dan yr iau yn gaethweision, cyfrifent eu meistriaid eu hunain yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw a'r athrawiaeth.