1 Timothy 6:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys chwant‐ mwnws yw gwreiddin pob drwg. Yr hein tra oyddynt rrei yn i chwenychu, hwy a wyrasont or ffydd, ag ay trychasont ey hunain tryvvodd a llawer o g ovidie.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yn wreiddyn pob drwg y mae ariangarwch; yr hon, rhai yn chwannog iddi a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd, a hwynt eu hunain a wanasant â gofidiau lawer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gwreiddyn i’r drygau oll ydyw ariangarwch, a rhai yn chwannog i hyn, crwydrasant oddi wrth y ffydd a’u gwanu eu hunain ag ingoedd lawer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a'u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd gwraidd pob math o ddrwg yw cariad at arian, ac wrth geisio cael gafael ynddo crwydrodd rhai oddi wrth y ffydd, a'u trywanu eu hunain ag arteithiau lawer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y mae ariangarwch yn wreiddyn pob drwg, a rhai, wedi chwantu am arian, a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd, ac a drywanasant eu hunain a llawer o ofidiau.