1 Timothy 6:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ymladd ymladdiad gorchestol y ffydd: cymer afael ar y bowyd tragwyddawl, ir hwn hefyd ith alwyd, ac ir ymaðewaist ymaddawiad da gar bron llawer o dystion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ymdrecha ymdrech ardderchog y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i’r hwn y’th alwyd, a chyffesaist y gyffes ardderchog ger bron llawer o dystion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dal i ymdrechu rhagorol ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i hwn y’th alwyd ac y dygaist dy gyffes aruchel yngŵydd tystion lawer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i'r hwn hefyd y'th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy'r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di'n credu o flaen llawer o dystion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymdrecha ymdrech lew y ffydd, a chymer feddiant o'r bywyd tragwyddol. I hyn y cefaist dy alw pan wnaethost dy gyffes lew o'r ffydd o flaen tystion lawer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i'r hwn hefyd y'th alwyd, ac y cyffesaist y gyffes dda gerbron llawer o dystion.